|
|
Ymchwil ac astudiaeth bellachBoed hynny fel rhan o’ch rhaglen Datblygiad Proffesiynol Parhaus eich hun, er mwyn gwella eich cyflogadwyedd, am eich bod yn caru addysg, neu os ydych yn ceisio ymgymryd ag ymchwil mewn maes o’ch dewis chi mae sawl opsiyn gennym ar eich cyfer. Astudiaeth uwchraddedig Os ydych yn ystyried gwneud rhaglen uwchraddedig ym Mhrifysgol Glyndŵr, mae yna lawer o opsiynau a allai fod o ddiddordeb i chi, o raddau uwchraddedig a addysgir i raddau ymchwil uwchraddedig, megis MPhil neu PhD. Mae Prifysgol Glyndŵr yn wastad wedi bod â sylfaen ymchwil ac ysgoloriaeth gref sydd wedi cael cryn ddylanwad ar y rhaglenni a addysgir. Mae hyn yn sicrhau bod ein myfyrwyr yn gallu rhyngweithio gyda staff sydd yn hollol gyfarwydd â’r ymchwil a’r ysgoloriaeth diweddaraf yn eu disgyblaeth. Mae’r graddau a’r ystod o weithgareddau ymchwil a ymgymerir o fewn y Brifysgol wedi ehangu’n sylweddol yn ystod y deng mlynedd diwethaf. Yr ydym wedi cofleidio diwylliant o ymchwil ac ysgoloriaeth yn ein pynciau i gyd er mwyn gwella ansawdd y cwricwlwm o ran ei gynllun a’i weithrediad. Mae cymwysterau uwchraddedig yn dod yn gynyddol bwysig yn y byd cystadleuol sydd ohoni. Gall PhD neu radd Meistr wneud gwahaniaeth wrth sicrhau’r swydd werthfawr honno. Fel gyda rhaglenni israddedig, bydd y sgiliau a geir trwy ddilyn rhaglen uwchraddedig – boed y rhaglen yn un a addysgir neu trwy ymchwil – o ddefnydd am weddill eich gyrfa a thu hwnt. Ysgoloriaethau a Bwrsarïau Cyn gwneud cais i ni am astudiaeth uwchraddedig neu ymchwil cliciwch yma am wynbodaeth ar ysgoloriaethau* neu yma am wybodaeth ar fwrsarïau* gall eich helpu i dalu am eich hastudiaethau. Cliciwch ym am restr lawn o'n cyrsiau uwchraddedig. Cyrsiau Proffesiynol Mae’r Brifysgol yn cynnig ystod o gyrsiau proffesiynol, sydd fel arfer yn cynnig aelodaeth i gyrff proffesiynol ac yn hanfodol ar gyfer mynediad i rai lwybrau gyrfaol. Mae’r cyrsiau wedi eu haddasu’n benodol i yrfaoedd penodol megis marchnata, adnoddau dynol ac addysgu. Mae cwblhau llawer o’r cyrsiau hyn yn cynnig rhyddhad o rannau o gyrsiau meistr. Mae’r cyrsiau yn cychwyn ym mis Medi / Hydref bob blwyddyn, ond gellir cychwyn rhai ym mis Ionawr hefyd. Mae’r cyrsiau yn amrywio o ran hyd ond yn para am flwyddyn o astudiaeth ran amser fesul lefel. Cliciwch ym am restr lawn o'n cyrsiau proffesiynol. Mwy o wybodaeth a cheisiadau Am fwy o fanylion neu i wneud cais astudio, neu i wirio cymhwyster ac argaeledd cefnogaeth arianol, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau ac Ymchwiliadau ar 01978 293439 neu sid@glyndwr.ac.uk. * Mi fydd meini prawf cymwhysedd yn berthnasol.
|
|