|
|
Y Ganolfan Chwaraeon
Mae gan Brifysgol Glyndŵr un o brif leoliadau chwaraeon Gogledd Cymru.
Mae’r Ganolfan Chwaraeon ym Mhrifysgol Glyndŵr wedi cynnawl sawl digwyddiad chwaraeon rhyngwladol a chartref o bwys yn ogystal ag ystod o gynadleddau a digwyddiadau eraill, ac yn ddiweddar cafodd ei henwi fel gwersyll cyn-hyfforddi ar gyfer Gêmau Olympaidd a Pharalympaidd 2012. Mae yna ystod eang o gyfleusterau ar gael yn y Ganolfan Chwaraeon ac fel aelod o Gymdeithas Cynfyfyrwyr Prifysgol Glyndŵr, gallwch fanteisio ar ffioedd aelodaeth gostyngedig.
Ystafell Ffitrwydd
Os nad ydych wedi gwneud defnydd o’r Ystafell Ffitrwydd yn barod, gellir dod o hyd i’r cyfleuster golau ac awyrog yma ar lawr cyntaf y Ganolfan Chwaraeon ar Gampws Plas Coch. Mae ganddo fan erobig sy’n cynnwys beiciau, melinau traed, croes hyfforddwr a rhwyfwyr yn ogystal â man pwrpasol gydag offer gwrthsafol gan gynnwys bar Olympaidd a detholiad o bwysau rhydd. Ymuno Er mwyn ymuno, ewch i’r Ystafell Ffitrwydd gyda’ch hen gerdyn myfyriwr neu rif myfyriwr (i gadarnhau eich rhif myfyriwr, cysylltwch â Swyddfa’r Cynfyfyrwyr o flaen llaw) ble bydd angen i chi lenwi ffurflen gais a thalu ffi ymuno o £22 yn unig. Hwyrach y bydd angen i chi hefyd ymgymryd â sesiwn ymgynefino 20 munud y gellir ei threfnu o flaen llaw trwy gysylltu â’r Ganolfan Chwaraeon ar 01978 293275. Dosbarthiadau Mae’r ystafell ffitrwydd hefyd yn cynnal nifer o ddosbarthiadau ffitrwydd trwy gydol yr wythnos: Dydd Llun
Dydd Mawrth
Dydd Mercher
Dydd Iau
Dydd Gwener
Mae prisiau’r dosbarthiadau yn amrywio a cheir rhai gostyngiadau wrth archebu nifer o ddosbarthiadau o flaen llaw. Cyfleusterau chwaraeon tîm Fel arall, os ydych yn edrych am gyfleusterau i chwarae chwaraeon tîm gyda ffrindiau neu gydweithwyr neu’n cynnal digwyddiad chwaraeon corfforaethol neu elusennol, gall aelodau hefyd archebu cyfleusterau cwrt dan do ar gyfer ystod o chwaraeon gan gynnwys badminton, pêl-fasged, pêl-rwyd a phêl-droed. Yn ogystal, mae yna ddau gae awyr agored â llifoleuadau, sef cae sylfaen-tywod ar gyfer pêl-droed a chae hoci sylfaen-dŵr ble cynhaliwyd digwyddiad Hoci rhyngwladol mwyaf Cymru yn ddiweddar, sef Tlws Cenhedloedd EwroHoci Dynion Hŷn 2009. Amseroedd agor
Prisiau Cynfyfyrwyr ar gyfer yr Ystafell Ffitrwydd
Mwy o wybodaeth ac archebu Er mwyn gwirio argaeledd a phrisiau neu i archebu unrhyw un o’r cyfleusterau, cysylltwch yn uniongyrchol â’r Ganolfan Chwaraeon ar: Rhif ffôn: 01978 293275 |
|