Scroll to Text Glyndwr University Homepage Contact Us Help and Accessibility Information Site Map Search the Site

Tystysgrifau a thrawsgrifiadau

Tystysgrifau

Os oes angen copi o’ch tystysgrif arnoch naill ai er mwyn eich cyfeiriadaeth eich hun neu ar gyfer cyflogwr newydd, gallwch gael gafael ar gopi naill ai o Brifysgol Glyndŵr neu Brifysgol Cymru yn dibynnu ar eich gradd.

Tystysgrifau gradd newydd – NEWI
Gellir cael gafael ar Dystysgrifau Cenedlaethol Uwch NEWI (HNC a HND) o Wasanaethau Cofrestru Prifysgol Glyndŵr am gost o £30. Cysyllter â:

Gwasanaethau Cofrestru Prifysgol Glyndŵr
Rhif ffôn: 01978 293142

Tystysgrifau gradd newydd – Prifysgol Cymru
Gellir cael gafael ar dystysgrifau newydd ar gyfer graddau a thystysgrifau gradd uwch (BA, BSc, BEng, BN, MA, MSc, MBA, MPhil a PhD) a wobrwyir trwy Brifysgol Cymru o Swyddfa Academaidd Prifysgol Cymru. Codir tâl am y gwasanaeth yma hefyd. Cysyllter â: 

Swyddfa Academaidd Prifysgol Cymru
Rhif ffôn: 029 2037 6999
E-bost: uniwales@wales.ac.uk

Trawsgrifiadau gradd

Mae trawsgrifiadau gradd yn gofnod academaidd llawn o’ch gyrfa fel myfyriwr/wraig ac yn cynnwys marciau o bob blwyddyn, a roddir ynghyd â’ch tystysgrif gradd wrth raddio. Lle mae marciau manwl ar gael, mae trawsgrifiadau newydd ar gael am ddim.. Cysyllter â:

Swyddfa’r Cynfyfyrwyr
Rhif ffôn: 01978 293974
E-bost: spc@glyndwr.ac.uk

Cynfyfyrwyr